Chwilio Dwdws.com
Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn chwilio?
Bydd Dwdws yn ffeindio unrhyw air y byddwch yn chwilio amdano.
Felly os ydych yn chwilio am 'fwyd Eidaleg', bydd Dwdws yn chwilio am bob gwefan sydd yn cynnwys y geiriau yma.
Gallwch hefyd chwilio Dwdws fesyl Lleoliad, e.e Gogledd Cymru, De Cymru; Caerdydd, Aberystwyth, Pwllheli, neu Bangor.
Wrth gwrs mae hefyd yn bosibl chwilio am wefan yn uniongyrchol, drwy deipio ynrhyw gyfeiriad gwe yn y bocs chwilio, e.e dwdws.com
Un cam ymhellach
Os ydych yn chwilio am "Eida", bydd Dwdws yn chwilio am "Fwyd Eidaleg". Mae hyn yn cael ei wneud gyda Dwdws yn chwilio ac yn cymharu pob tects o'r allweddeiriau - y teitl, enw'r wefan a'r disgrifiad. Byddai Dwdws hefyd yn dangos pob gair arall yn cynnwys "Eida".
Mae hyn yn arbed amser i chi, gan nad ydych angen teipio "Bwyty Eidaleg" yn llawn. Gallwch hefyd chwilio "Bang", am Bangor, neu "Pwll" am Pwllheli, ac yn y blaen.
Ar hap
Bydd Dwdws yn arddangos salfe gwe ar hap.
Uchafswm hyd gair a lleiafswm hyd gair
Yr uchafswm o eiriau neu rifau y gallwch eu rhoi i chwiliwr Dwdws yw 72. Y lleiafswm o eiriau neu rifau yw 1.
Nifer o ganlyniadau y dudalen
Bydd Dwdws yn arddangos 7 canlyniad y dudalen. Os oes mwy o ganlyniadau, bydd rhifau ychwanegol yn arddangos ar waelod y dudalen e.e: -
Tudalen Ganlyniad: : << Blaenorol 1 2 3 Nesaf >> <<Tudalen gyntaf